>
Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, a bydd yn cael ei ddarparu mewn dwy ardal ddaearyddol: Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, a Dwyrain Cymru. Mae FLEXIS wedi cael gwerth £15 miliwn o gymorth cyllid trwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Trwy waith FLEXIS, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu systemau ynni hyblyg, sy’n flaenoriaeth frys o ran cynhyrchu a chyflenwi ynni. Byddwn yn cael effaith economaidd sylweddol trwy gefnogi a datblygu’r gwaith ymchwil sy’n enwog yn rhyngwladol yn y maes hwn ac, yn fwy penodol, trwy’r technolegau newydd a’r swyddi newydd a fydd yn dilyn y gwaith hwn.
Ein nod yw creu diwylliant ymchwil ac arloesedd ledled Cymru, fel ein bod yn cael ein hadnabod ledled y byd fel arweinydd o ran technoleg systemau ynni. Bydd rhan o’n gweithgarwch hefyd yn cynnwys llywio arloesedd er mwyn creu swyddi a chael effaith economaidd go iawn. Un o’n hamcanion allweddol o ran FLEXIS yw creu màs critigol sylweddol, a denu ymchwilwyr newydd i Gymru. Rydym yn anelu at sefydlu ymchwilwyr rhagorol mewn cwmnïau a arweinir gan ymchwil yng Nghymru, a byddwn yn gweithio i ddenu cwmnïau newydd i ymsefydlu yma, gan felly gefnogi economi Cymru a chreu swyddi.
Fel partneriaid i FLEXIS, byddwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu clystyrau, a hynny trwy gydweithio â sefydliadau ymchwil yn y sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru, ledled Ewrop, a thros y byd. Ein nod yw hyrwyddo cynnyrch ymchwil yng Nghymru a’r cyrsiau hyfforddi proffesiynol a fydd yn deillio o’r gweithgarwch hwn, ynghyd â chynhyrchu’r peirianwyr ymchwil graddedig y mae eu hangen i wneud Cymru yn un o’r arweinwyr byd-eang ym maes ymchwil ynni.
Er mwyn galluogi’r DU i fodloni ei hymrwymiadau o ran y newid yn yr hinsawdd, bydd angen datblygu systemau ynni sy’n galluogi i’n cyflenwad ynni gael ei ddatgarboneiddio, ond gan sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn fforddiadwy yr un pryd.
Mae tlodi tanwydd, yn arbennig ymysg yr henoed, o bwys cynyddol wrth i brisiau ynni gynyddu i gynnwys systemau ynni sydd hyd yn oed yn fwy cymhleth, ynghyd â’r seilwaith newydd cysylltiedig. Rydym yn anelu at fynd i’r afael ag agweddau economaidd-gymdeithasol yr her hon, gan gynnwys canfyddiadau’r cyhoedd a chyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch ymchwil ynni a datblygu ynni, ynghyd â’r costau a’r manteision cysylltiedig. Mae dull rhyngddisgyblaethol yn hanfodol i ddatrys yr heriau amrywiol, cymhleth a chyd-ddibynnol hyn.
Bydd yr ymchwil hefyd yn seiliedig ar bedwar prif biler, fel a ganlyn:
Mae’r piler olaf o’r rhai sy’n cael eu crybwyll uchod o bwys arbennig. Bydd yr holl ymchwil sydd i’w gwneud yn canolbwyntio ar arddangoswr “mewn lle penodol” yng Nghymru, ac yn cael ei chymhwyso yno. Mae’r arddangoswr hwn yn ardal Port Talbot, yng ngwaith dur Tata.