> Safle Arddangos - Flexis Wales | Flexis
Menu

Mae ‘safle arddangos’ FLEXIS wedi’i leoli yn yr ardal o gwmpas gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot, ac yn ymestyn o amgylch yr arfordir i’r Morlyn Llanw arfaethedig, fel y gwelwch yn y diagram isod. Mae’r generaduron trydanol ar y safle arddangos yn cynnwys dwy orsaf bŵer biomas, gorsaf bŵer Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun, fferm solar, fferm wynt a’r Morlyn Llanw arfaethedig. O ran defnyddwyr, mae’r safle arddangos yn cynnwys y gwaith dur (gyda thrydan yn cael ei gynhyrchu ar y safle o nwyon a gwres gwastraff), gwaith trin Dŵr Cymru (gyda thrydan yn cael ei gynhyrchu ar y safle), y gwaith sment, y felin bapur, warws Amazon, gwaith nwyon diwydiannol BOC, ysgolion, ysbytai, swyddfeydd y Cyngor, Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru, canolfan ymchwil Tyrbinau Nwy Prifysgol Caerdydd, a Champws y Bae Prifysgol Abertawe.

Y cysyniad yw y bydd FLEXIS yn modelu’r ynni a’r llifoedd CO2 yn y rhanbarth, ac yna’n dechrau archwilio cyfleoedd o ran effeithlonrwydd synergyddol.

Bydd ynni, yn nhermau gwres, trydan a nwy, yn cael ei fodelu er mwyn archwilio ffynonellau tanwydd ac ynni, rhwydweithiau, ac opsiynau storio amgen.

Bydd yr allyriadau CO2 yn cael eu modelu i bennu unrhyw leihad mewn allyriadau net, ac yna hefyd i asesu’r posibilrwydd o roi storfa dal a defnyddio carbon a CO2 ar waith.

Bydd systemau ynni hyblyg, gwresogi ardal, storio ynni, ffynonellau ynni amgen, yr economi hydrogen, dal a defnyddio carbon, storio (ac allforio) CO2, i gyd yn cael eu harchwilio trwy’r gwaith modelu a’r pecynnau gwaith eraill sy’n gysylltiedig â FLEXIS. Mae hyn felly nid yn unig yn gyfle cyffrous i wella effeithlonrwydd yr adnoddau yn yr ardal arddangos, ond hefyd i wella hyblygrwydd y rhwydweithiau ynni, i leihau gwastraff ac i leihau’r allyriadau CO2 o’r ardal.

Rhagwelir y bydd FLEXIS nid yn unig yn helpu i wella llwyddiant y busnesau hynny sydd yn yr ardal arddangos, ond hefyd yn amlygu’r potensial ar gyfer busnesau newydd a datblygu rhanbarthol.

Image courtesy: Google Maps