>
Mae FLEXIS, yn ei gyfanrwydd, yn waith rhyng-sefydliadol cryf ac, fel y cyfryw, mae’r broses reoli graidd, y systemau TGCh, ynghyd â’r prosesau a’r cyfleusterau sy’n cael eu defnyddio gan y tîm, yn amrywio ledled y consortiwm.
Mae yna fap isod sy’n dangos y cyfleusterau sy’n rhan o FLEXIS. Mae pob un o’r cyfleusterau hyn yn sefydliadau sydd wedi hen ymsefydlu, gyda strwythurau a systemau rheoli mewnol cadarn, yn ogystal â gwasanaethau TGCh dibynadwy ac eang. Gan fod FLEXIS yn waith mawr sydd wedi’i sefydlu ledled y sefydliadau hyn, mae’r holl systemau a gwasanaethau hyn yn cyfrannu at y broses o redeg y gwaith mewn modd didrafferth ac effeithlon.