Menu

Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2020 – Dr Manju

Peidiwch â gwrando ar yr ystrydebau sy’n dweud bod y proffesiwn hwn yn un ar gyfer un yn unig o’r rhywiau. Gall merched ddod â’r newid a rhaid inni wthio yn erbyn y rhwystrau. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, peidiwch â gadael i ddim byd eich rhwystro. Dalwch i wthio ac mi allwch gyflawni pethau mawr!

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2020, dewch i gwrdd â rheolwr y tîm gwres daear, Dr Manju i glywed sut mae’r fenyw ryfeddol hon wedi herio stereoteipiau ac wedi torri ei chŵys ei hun i fod yn un o arloeswyr trawsnewidiad gwres carbon isel dŵr glofeydd yng Nghymru.

Yma yn FLEXIS, rydym yn ffodus bod gennym fenywod yn gweithio yn y byd peirianyddol sy’n gwneud ymchwil o safon ryngwladol. Ac mae Dr Manju yn un o blith nifer ohonynt.

Wedi ei geni a’i magu yn India, mae Dr Manju wedi bod yn arloesi o’r cychwyn cyntaf, ac meddai: “Mi ges fy holl addysg yn India a thrwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol gofynnwyd imi a oeddwn am astudio meddygaeth. Roedd yr un bobl yn gofyn i fy mrawd a oedd am astudio peirianneg, ac mi ddechreuais feddwl… pam na ofynnwyd imi a oeddwn am astudio’r un pwnc â fy mrawd? Mi wnes i gadw meddwl agored a chael graddau da mewn Mathemateg, Bioleg, Ffiseg a Chemeg. Gydag anogaeth fy nhad, mi benderfynais astudio am radd mewn Peirianneg Sifil i ddechrau, lle’r oeddwn yn un o fwy na 50 yn fy nosbarth, ac yn un o ddim ond tair menyw. Mi feddyliais, mae hon yn mynd i fod yn frwydr anodd ac y bydd yn rhaid imi wneud fy ngorau!

Ar ôl ennill gradd gyda Theilyngdod yn 2000, cefais gymrodoriaeth Llywodraeth India i wneud gradd Meistr mewn Peirianneg Amgylcheddol. Ar ôl cwblhau gradd Meistr, astudiais am PhD mewn Peirianneg GeoAmgylcheddol yn sefydliad ymchwil gorau India, sef yr Indian Institute of Science yn Bangalore ym mis Rhagfyr 2005.”

Drwy ei phenderfyniad a’i gwaith caled, Dr Manju yw’r fenyw gyntaf yn ei theulu i fynd i’r byd peirianyddol. “Dechreuais drwy weithio fel darlithydd mewn Peirianneg Sifil yn y Birla Institute of Technology, Pilani <https://www.bits-pilani.ac.in/> yn India. Ar yr un pryd, roeddwn yn awyddus i gael blas ar y byd mawr y tu allan i India a chefais gyfle yn y Bauhaus Universitat Weimar, yr Almaen <https://www.uni-weimar.de/en/university/start/>, lle bûm yn gweithio am 2 flynedd. Yma roeddwn yn gweithio ar y system rhwystr peirianyddol ar gyfer gwaredu gwastraff niwclear, a oedd yn bwnc amserol iawn ar y pryd.”

Am gyfnod byr symudodd Dr Manju yn ôl i India i gael ei mab, Tatsam, cyn chwilio am gyfleoedd newydd yn y maes peirianneg geothermol. Ar ôl cyfnod o famolaeth, yn 2010, ymunodd Manju â Phrifysgol Caerdydd.

“Roedd y rôl hon yn ymwneud â phwnc mwy heriol a byw. Fel heddiw, roedd pawb am ddangos sut y gellid mynd i’r afael â chynhesu byd-eang. Roedd y prosiect hwn yn edrych sut y gellid datblygu technolegau newydd ac arloesol yn y diwydiant newydd o gynhyrchu ynni gwres o’r ddaear. Dechreuwyd drwy edrych ar bympiau gwres. Cysylltodd canolfan ddringo Taf Bargoed (canolfan Rock UK Summit), â mi, sef cartref Glofa Ddrifft Trelewis ac un o gynlluniau mwyaf yr Awdurdod Glo. Mi sylwais fod y dŵr cynnes yn cael ei bwmpio ar gyfer ei drin cyn ei rhyddhau i ddŵr wyneb. Nid oedd y gwres o’r dŵr yn cael ei ddefnyddio felly dechreuais werthuso beth fyddai buddiannau technegol ei ddefnyddio. Hwn oedd yr adroddiad cyntaf imi ei baratoi yn y maes. Gyda chymorth partner diwydiannol, yn 2014, datblygais yr arddangosydd masnachol cyntaf i hyfywedd dŵr glofeydd fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy yng Nghymru fel prosiect enghreifftiol byw yng Nghrynant.

Dr Manju yn yr Ystafell Beirannau yn Safle Dŵr Glofa Crynant

Dyma oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a chafodd lawer o sylw gan y Llywodraeth a diwydiant. Un o fy nghyflawniadau pwysicaf oedd cyflwyno brîff yn y Cynulliad Cenedlaethol ar bwysigrwydd Dŵr Glofeydd yng Nghymru gyda’r teitl “Unlocking the untapped potential of the South Wales Coalfield” yn 2014.  Yna gwnaeth Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gais i weithio â’r system wresogi ddeallus newydd hon, ac mae hi’n awr yn y broses o gael ei datblygu. Roedd hyn yn hwb mawr i fy hyder drwy sylweddoli bod fy ymchwil a fy syniadau’n ddigon da i allu gweithio ar lefel fasnachol.

Dr Manju yn rhoi arddangosiad yn ystod Ymweliad Dirprwy Weinidog

Yn ystod y cyfnod hwn, tua 2012-2013 dwi’n credu, cefais wahoddiad hefyd i dderbyniad brenhinol yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Roeddwn mor brysur gyda fy ngwaith nes imi ddweud wrth ffrind nad oeddwn yn siŵr a oedd gen i’r amser i fynd. Ond mi ydw i mor falch mod i wedi bod gan imi gael cyfle i gwrdd ac i gyflwyno fy ngwaith ar y dechnoleg arloesol i’r Dywysoges Anne. Roedd honno’n foment fawr imi.”

Dr Manju a’r Athro Hywel Thomas gyda’r Dywysoges Anne

Wrth i’r DU, a’r byd, barhau i ganolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, a chyrraedd sero net, mae peirianneg yn parhau i addasu a datblygu ymchwil a thechnoleg newydd i ddiwallu ein hanghenion cynyddol. Wrth drafod ei hymchwil bresennol a’r cyfeiriad y mae hi’n gweld ei gyrfa’n mynd yn y 5 i 10 mlynedd nesaf, dywed Dr Manju: “Wrth inni ganolbwyntio ar gyflawni targedau sero net, mae fy ngwaith yn awr yn edrych ar y siwrnai sero carbon a sut i integreiddio technoleg cynhesu dŵr glofeydd gyda thechnoleg adnewyddadwy arall. Gelwir hon yn system ynni hyblyg. Mae’n sicrhau cyflenwad ynni dibynadwy, darbodus a chyson i leihau’r galw brig yn y gaeaf drwy newid amseroedd cynhyrchu gwres i adegau pan fydd y grid yn y sefyllfa orau i ymdopi.

Mae datgarboneiddio gwres yn cael mwy a mwy o sylw gan y llywodraeth a diwydiant gyda mwy a mwy o arddangosiadau mewn gwres dŵr glofeydd/ynni adnewyddadwy yn ymddangos ledled y DU. Rwyf mewn sefyllfa wirioneddol gref i gyfrannu at y bwlch mewn gwybodaeth ac yn y blynyddoedd nesaf mi hoffwn symud i rôl gynghori neu ymgynghori. Rwyf yn rhagweld mai’r camau nesaf yn y dechnoleg hon fydd gweithio i’w masnacheiddio a datblygu’r dechnoleg ar raddfa ddiwydiannol.  Ac mae hynny’n rhywbeth rwyf yn gwybod y gallaf ei ddatblygu ac ychwanegu gwerth gwirioneddol ato.”

Dr Manju yn siarad mewn seminar dŵr glofeydd

Mae 7.7 miliwn o adeiladau yn y DU wedi eu hadeiladu ar faes glo felly mae potensial y dechnoleg yn enfawr. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd ond gyda thalentau a gwybodaeth newydd gallwn ddatblygu technoleg sero net arloesol, gynaliadwy a dibynadwy.

Heddiw o bob dydd rydym yn rhoi sylw i Fenywod mewn Peirianneg a phan ofynnwyd iddi ‘Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod ifanc sy’n meddwl am yrfa mewn peirianneg/gwyddoniaeth?’ Ateb Dr Manju yw: Peidiwch â gwrando ar yr ystrydebau sy’n dweud bod y proffesiwn hwn yn un ar gyfer un yn unig o’r rhywiau. Gall merched ddod â’r newid a rhaid inni wthio yn erbyn y rhwystrau. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, peidiwch â gadael i ddim byd eich rhwystro. Dalwch i wthio ac mi allwch gyflawni pethau mawr!”