Menu

Cyfarchion y Tymor o FLEXIS

Festive Wishes from FLEXIS Website Banner 2020

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn allweddol i ni i gyd ac wrth iddi dynnu at ei therfyn, hoffem rannu rhywfaint o newyddion cadarnhaol a rhai o’n huchafbwyntiau eleni.

Mae consortiwm partneriaid strategol FLEXIS – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot a Tata Steel UK, wedi cydweithio’n llwyddiannus i ddatblygu a chreu galluogrwydd ymchwil systemau ynni yng Nghymru.

Mae FLEXIS wedi cynhyrchu dros £25M o incwm ymchwil, wedi recriwtio 95 o ymchwilwyr newydd i brifysgolion yng Nghymru ac wedi buddsoddi dros £2.4M mewn technoleg ac offer ymchwil i gynorthwyo ymchwil nawr ac yn y dyfodol. Rydym wedi darparu 13 o ysgoloriaethau hefyd fel rhan o Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth 2 (KESS II).

Efallai fod Covid-19 wedi rhoi terfyn ar ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, ond mae’r tîm wedi parhau i symud ymlaen gan ddefnyddio’r holl dechnoleg sydd ar gael, i rannu effaith FLEXIS drwy nifer o gynadleddau digidol yn cynnwys Net Zero Live, Wythnos Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru a nifer o weminarau ar ran Canolfan Ymchwil y DU ar gyfer Dal a Storio Carbon (UKCCSRC).

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, mae ein pobl hefyd wedi parhau i ddatblygu a llwyddo.
Fe wnaethom groesawu dyrchafiadau a dechreuwyr newydd; cafodd deuddeg o gydweithwyr eu hardystio’n Garbon-lythrennog ac fe wnaeth un hyd yn oed ennill Gwobr fawreddog Hinshelwood am ei ymchwil. Da iawn Dan Pugh! Eleni, rydym wedi ffarwelio â rhai pobl hynod ddawnus, ond mae hyn yn llwyddiant arall wrth i ni geisio gwreiddio ein hymchwilwyr rhagorol mewn cwmnïau a gaiff eu harwain gan ymchwil yng Nghymru. Dymunwn y gorau i bob un o’n cydweithwyr yn y dyfodol.

O ran y dyfodol, bydd FLEXISApp yn gweithredu ar ymchwil FLEXIS ac yn llywio twf economaidd ac atebion sero net. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld a chefnogi twf a datblygiad prosiectau a mentrau a wnaeth elwa o gefnogaeth ac arbenigedd technegol gan FLEXIS pan oeddent megis dechrau, yn cynnwys Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), Prosiect Gwres Dŵr Pwll Glo Caerau ac Ardal Arddangos Sero Carbon Gorllewin Cymru.

Festive Wishes from FLEXIS Future Logos 2020

Ar y cyd â’r diwydiant a’r llywodraeth, byddwn yn defnyddio ymchwil, datblygu ac arloesi i helpu i gyflawni targedau 2030, 2040 a 2050.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl ffrindiau, partneriaid a chydweithwyr yn FLEXIS am eu gwaith caled a’u cefnogaeth barhaus ac i ddymuno cyfarchion gorau i chi i gyd dros yr ŵyl a Blwyddyn Newydd iach a llwyddiannus i chi!