Menu

Datblygu dealltwriaeth ddynamig o ansicrwydd ynni aelwydydd: Canfyddiadau Gwyddonwyr Cymdeithasol FLEXIS

Caerau

Karen Henwood, Nick Pidgeon, Fiona Shirani and Chris Groves

Yr Ymchwil

Ers 2017, mae’r tîm wedi bod yn cynnal cyfresi blynyddol o gyfweliadau ansoddol (dyluniad hydredol ansoddol) ag aelwydydd yng nghymuned Caerau yng Nghymoedd y De, lle mae prosiect cynhesu geothermol ardal seiliedig ar ddŵr glofeydd sy’n defnyddio arbenigedd peirianyddol FLEXIS yn cael ei gynllunio.

Mae’r gymuned hon yn sgorio’n uchel ar nifer o fesurau amddifadedd, ac mae data Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS yn dangos pa mor agored i ddioddef tlodi ynni a darpariaeth annigonol o wasanaethau ynni yw preswylwyr Caerau. Mae diffiniadau presennol o dlodi tanwydd wedi cael eu beirniadu am fod yn rhy statig, am eu bod yn awgrymu ei bod yn hawdd dweud a yw aelwyd yn dioddef ohono neu beidio.  Ond mae ymchwil, ar y llaw arall, yn awgrymu mai’r broblem sylfaenol a all arwain at dlodi tanwydd yw ansicrwydd ynni, y duedd ymhlith rhai aelwydydd i symud i dlodi tanwydd o ganlyniad i newidiadau mewn amgylchiadau cymdeithasol, gwleidyddol neu economaidd, neu mewn amodau tai.

Drwy fabwysiadu dull hydredol ansoddol, sy’n golygu bod modd edrych ar newid dros amser, mae ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS yn gallu mynd â’r ddealltwriaeth ddynamig hon o ansicrwydd ynni gam ymhellach.

Prif Sylwadau

Mae ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS yn awgrymu bod rhai o’r amodau a nodir yn y llenyddiaeth ehangach fel rhai sy’n arwain at ansicrwydd yn deillio o nodweddion y system ynni ei hun, ond bod eraill sydd heb ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r ddarpariaeth ynni.  Enghreifftiau o’r olaf yw: tai gwael yng nghymunedau Cymru; hanes economaidd gymdeithasol a diwylliannol ardal; ac ansawdd y perthnasoedd cymdeithasol ynddynt. O ran cysylltiad mwy uniongyrchol ag ynni, gellid cynnwys i ba raddau mae gofyniad ar landlordiaid i gynnal effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy reoliadau yn cael ei weld gan gyfweleion fel rhywbeth sy’n cael dylanwad pwysig ar wariant aelwydydd ar ynni ac ar iechyd a llesiant preswylwyr yn fwy cyffredinol. Mae’r berthynas â chwmnïau cyfleustodau yn aml yn rhywbeth sy’n cael ei weld fel achos ansicrwydd ychwanegol, o ganlyniad i gynifer o fesuryddion rhagdalu (sy’n gysylltiedig â thariffau uwch) a sut mae’r rheoliadau cyfredol yn ei gwneud yn anodd i gwsmeriaid llai cefnog i newid cyflenwyr. Mae data’r cyfweliadau’n cynnig gwedd newydd ar sut yr oedd cyfranogwyr yn aml yn datgan eu cefnogaeth i’r cynllun dŵr glofeydd arfaethedig, er eu bod ar yr un pryd yn bryderus ynglŷn â sut y byddai’n diwallu anghenion penodol y gymuned.

Mi fuasai pawb yn hoffi ei gael os yw’n ddigon rhad. Mae’r gost i’r amgylchedd yn dda, mae hynny’n well inni. Nid ydym yn llosgi tanwydd ffosil. Nid ydym, i gadw’r tŷ yn gynnes, rydym yn defnyddio rhywbeth sy’n rhan o’n treftadaeth, mae’n rhoi gwres, ond beth yw’r gost? Dyna fydd yn penderfynu barn pawb.

(Terry, 60au, Cyfweliad 2)

Mae tîm Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS, o dan arweiniad yr Athrawon Karen Henwood a Nick Pidgeon, yn edrych ar yr heriau ynni sy’n wynebu cymunedau Cymru lle mae arddangosiadau FLEXIS wedi eu trefnu. Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn helpu FLEXIS a rhanddeiliaid polisi i ddeall pa amodau sy’n arwain at dlodi tanwydd yn Ne Cymru, ac i ragweld beth yw’r buddiannau a’r risgiau posibl i gymunedau o’r fath sy’n gysylltiedig â symud at system ynni fwy hyblyg sy’n seiliedig ar ffynonellau adnewyddadwy.

Roedd pryderon ein cyfranogwyr yn adlewyrchu eu hymdeimlad o ba mor agored yw’r gymuned i gynnydd mewn costau a mathau eraill o aflonyddwch sy’n deillio o newid cymdeithasol ehangach – gydag enghreifftiau o’r gorffennol yn cynnwys dirywiad economaidd yn lleol yn dilyn cau’r pyllau glo lleol, ac enghreifftiau cyfredol gan gynnwys pryderon am gyflwyno Credyd Cynhwysol. Roedd cyfranogwyr yn aml yn cyfeirio at enghreifftiau o sut y mae pobl yn y Caerau yn helpu ei gilydd, sy’n cael ei weld fel nodwedd annatod o hen gymunedau glofaol Cymoedd y De. Mae treftadaeth y diwydiant glo wedi parhau i fod yn bwysig ac roedd gwneud defnydd o’r pyllau glo drwy gynllun ynni adnewyddadwy newydd yn rhywbeth roedd y cyfranogwyr yn bositif iawn yn ei gylch:

Mae’n rhywbeth, oherwydd mae yn ein genynnau, ond yw e, roedd ein tad-cu yn mynd i lawr y pwll, rwy’n credu y dylid ei ddefnyddio er parch iddynt hwythau hefyd, felly mae’n cael ei ddefnyddio i wneud rhywbeth… mae hynny’n wych.

(Dawn, 40au, Cyfweliad 1)

Yn olaf, mae’r ymchwil yn dangos sut mae profiadau pobl gyda mesuryddion deallus o’r genhedlaeth gyntaf wedi gwneud i lawer fod braidd yn amheus ynglŷn â buddiannau gosod technolegau deallus newydd mewn cartrefi. Mae gan hyn oblygiadau polisi o ran cyflwyno technoleg ddeallus yn fwy cyffredinol, yn enwedig fel cynlluniau sydd wedi’u hanelu at ddefnyddwyr agored i niwed. O ganlyniad, mae ymchwil gwyddorau cymdeithasol FLEXIS yn chwarae rôl bwysig yn natblygiad y cynllun dŵr glofeydd arfaethedig drwy gasglu gwybodaeth am safbwyntiau a phrofiadau preswylwyr lleol.

Effaith a’r camau nesaf

Mae ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS o’r Caerau wedi dangos pwysigrwydd ystyried cwsmeriaid agored i niwed wrth symud rhwng systemau ynni rhag ofn gwneud y sefyllfa’n waeth i rai sydd eisoes mewn sefyllfa fregus. Drwy fabwysiadu dull hydredol ansoddol, lle’r ymwelir â’r un cyfranogwyr ar sawl achlysur, mae’r ymchwil wedi dangos agweddau newydd o ran sut y mae perthynas pobl ag ynni’n newid o ganlyniad i newidiadau i amgylchiadau eu bywydau, sy’n bwysig i gael dealltwriaeth fwy dynamig o’r galw am ynni.

Mae data o’r ymchwil wedi ei ddefnyddio eisoes i gyfrannu at brosiect Dyfodol Ynni Craffach Llywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Byw’n Fwy Craff, mewn cydweithrediad â’r Catapwlt Systemau Ynni. Dyfynnwyd tystiolaeth ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS yn y Caerau hefyd yn adroddiad diweddar Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tlodi Tanwydd yng Nghymru (Ebrill 2020) yn achos yr heriau sy’n gysylltiedig â dibynnu ar bobl i ddisgrifio’u hunain fel pobl agored i niwed i annog ymyriadau. Mae Gwyddonwyr Cymdeithasol FLEXIS yn datblygu cyfresi eraill o gyfweliadau yn y Caerau i barhau i edrych ar rôl ynni ym mywydau pobl ac i helpu i lywio datblygiad pellach y cynllun dŵr glofeydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phartneriaid eraill.