Menu

Defnyddio Technegau Ardal Arddangos FLEXIS er Budd De Cymru Gyfan

FLEXIS Demo Area

Mae technegau a ddatblygwyd i amcangyfrif y galw am wres o fewn Ardal Arddangos FLEXIS ym Mhort Talbot yn awr yn cynnal ymchwil arloesol i ddatgarboneiddio ledled De Cymru. Mae ymchwilwyr o Becyn Gwaith 1 gyda’r Athro Nicholas Jenkins yn gweithio i gefnogi’r fenter Zero2050: South Wales. O dan arweiniad National Grid, nod Zero2050 yw cyflymu cynnydd ar ddatgarboneiddio De Cymru i gyrraedd targedau sero net 2050.

Mae Dr Meysam Qadrdan, Alexandre Canet a William Seward o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm sy’n edrych yn benodol ar sut y bydd y galw am wres yn newid rhwng hyn a 2050, mewn adeiladu domestig ac annomestig. Bydd canlyniadau’r ymchwil yn helpu i oleuo’r diwydiant ynni ar y ffordd orau i fuddsoddi i ymdopi â’r galw am ynni yn y dyfodol, fel atgyfnerthu’r grid trydan.

Edrych ar wahanol fersiynau o’r dyfodol

Mae’r ymchwilwyr yn ymchwilio i dair senario wresogi wahanol y byddai modd i bob un ohonynt gynnig ffordd i gyrraedd sero net. Mae’r gyntaf o’r tair yn seiliedig ar Wresogi Hydrogen. Yn yr un modd â boeleri nwy naturiol heddiw, gall boeleri hydrogen roi chwistrelliad mawr o wres unionsyth ond heb ryddhau’r nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â llosgi nwy naturiol. Fodd bynnag, bydd yn rhaid cynhyrchu’r hydrogen a ddefnyddir fel tanwydd yn y boeleri mewn ffordd garbon isel os yw am gael yr effaith orau bosibl ar allyriadau’n gyffredinol.

Mae’r ail senario yn canolbwyntio ar drydaneiddio gwres. Mae’r senario hon yn ymgorffori defnydd eang o bympiau gwres ym mhob cymhwysiad posibl a gwresogi ardal mewn mannau â dwysedd uchel yn y galw am wres. Mae gwresogi ardal fel arfer yn cael ei nodweddu gan adeiladau sy’n cael dŵr poeth fel rhan o rwydwaith lleol lle mae’r dŵr yn cael ei gynhesu mewn cyfleuster lleol. Mae De Cymru’n cynnig cyfleoedd diddorol ar gyfer gwresogi ardal carbon isel ar ffurf gwres o ddŵr glofeydd neu wres gwastraff o brosesau diwydiannol.  Mae’r effaith gyffredinol ar ddatgarboneiddio yn y senario hon yn ddibynnol iawn ar grid trydan carbon isel.

Mae’r senario olaf yn hybrid sy’n awgrymu defnyddio cymysgedd o foeleri hydrogen a phympiau gwres ffynhonnell aer. Gellir defnyddio’r ddwy dechnoleg gyda’i gilydd, a adwaenir fel ‘pwmp gwres hybrid’, sy’n golygu bod modd newid rhwng hydrogen a thrydan yn seiliedig ar arwyddion allanol fel tymheredd yr aer yn yr awyr agored a phrisiau trydan.

Ffigur 1: Senarios datgarboneiddio gwres ar gyfer Abertawe (HP: Pwmp Gwres, DH: Gwresogi Ardal)

I adeiladu’r modelau gorau posibl o bob senario mae angen i’r ymchwilwyr allu rhagweld yn fanwl beth fydd y galw am wres ym mhob adeilad. Fodd bynnag, mae argaeledd data manwl o safon yn gwneud y broses honno’n anodd.

I gael asesiad mwy manwl o’r galw am wres defnyddiodd y tîm ymchwil blaenorol o Ardal Arddangos FLEXIS yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r dechneg a ddatblygwyd fel rhan o brosiect FLEXIS wedi ei huwchraddio i amcangyfrif y galw am wres ac i asesu opsiynau cyflenwi gwres posibl drwy ystyried gronynnedd gofodol manwl. Mae hyn yn galluogi mesur dichonolrwydd gosod technolegau gwresogi carbon isel priodol mewn adeiladau drwy ystyried y seilwaith presennol, mathau o adeiladau ac argaeledd gofod o fewn adeiladau yn ogystal ag amgylchiadau lleol perthnasol eraill.

Gellir wedyn paru adeiladwaith adeiladau o fewn y LSOA gyda data Tystysgrifau Perfformiad Ynni. Drwy ddefnyddio data effeithlonrwydd ynni roedd yr adeiladau’n cael eu rhannu i 16 o archfathau sy’n cyfuno siapiau aneddiadau gyda systemau gwresogi; er enghraifft tai unigol, tai pâr, terasau a fflatiau, a thechnolegau gwresogi fel boeler nwy, gwresogydd gwrthiant trydan, boeler olew a boeler biomas. Yn achos pob archfath, cyfrifwyd galw blynyddol cyfartalog am wres gan ddefnyddio gwybodaeth am y galw ym mhob adeilad unigol am wres mewn blwyddyn a oedd wedi’i nodi yn eu EPC. Roedd cyfanswm y galw am wres mewn LSOA wedi’i gyfrifo drwy adio’r galw blynyddol am wres ar gyfer yr union gyfuniad o archfathu adeiladau a thechnolegau gwresogi.

Defnyddio Modelau i Ragweld Galw yn y Dyfodol

Mae defnyddio proffwydoliaethau o alw am wres ym mhob LSOA yn galluogi’r tîm i fodelu’r galw am wres yn awr ac yn y dyfodol ar lefel o fanylder daearyddol a all lywio gweithgareddau fel atgyfnerthu’r grid trydan neu osod cynlluniau gwresogi ardal.

Ffigur 2: Map dwysedd o’r amcangyfrif o alw am wres domestig fesul LSOA yn 2018

Llywio’r Llwybr tuag at Sero Net

Bydd canlyniadau gwaith Prifysgol Caerdydd yn cael ei gyfuno â gwaith partneriaid eraill y prosiect Zero2050, sy’n cynnwys dadansoddiad o’r sectorau diwydiant a thrafnidiaeth, i greu darlun cyflawn o sut y gallai De Cymru sero net edrych. Gyda Llywodraeth Cymru fel partner, mae’r adroddiad terfynol yn ymdrechu i lywio datblygiad polisïau a gweithgareddau newydd i gyrraedd y targed sero net, a gellid trosi canfyddiadau’r cynllun hwn ledled y wlad a chynnwys prosiectau eraill.