Menu

Dileu Rhwystrau rhag Hydrogen Gwyrdd

Mae moderneiddio polisi cyhoeddus i gael twf glân yn hanfodol i gyflawni targedau sero net uchelgeisiol y Llywodraeth. Mae polisi cyhoeddus yn cael ei annog gan ganfyddiadau’r cyhoedd, sy’n golygu ei bod ymgysylltu â’r cyhoedd ar y siwrnai tuag at ddyfodol carbon isel yn hanfodol.

Mae ymchwilwyr FLEXIS ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio dull arloesol i ymgysylltu â’r cyhoedd i ddangos pŵer systemau ynni carbon isel. Wele’r ‘Beic Hydrogen’.

Dr Charlie Dunnill a myfyriwr yn defnyddio’r Beic Hydrogen

Mae gan hydrogen gwyrdd y potensial i ddatgarboneiddio ar unwaith rai o’r ffynonellau mwyaf o allyriadau yn y byd modern sydd ohoni; o gymryd lle petrol a disel mewn cerbydau, gweithredu fel ffynhonnell tanwydd amgen ar gyfer prosesau diwydiannol trwm neu drwy gymryd lle methan mewn boeleri gwres canolog i gynhesu ein cartrefi a’n dŵr poeth. Mae hydrogen hefyd yn ddatrysiad storio ynni y gellid ei ddefnyddio i storio ynni o ffynonellau adnewyddadwy pan fydd y galw’n isel a’i ryddhau ar adegau pan na fydd y gwynt yn chwythu neu’r haul yn tywynnu.

Problem Canfyddiad, neu Ddiffyg Canfyddiad

Er gwaethaf yr holl gyfleoedd, araf iawn fu’r broses o fabwysiadu hydrogen gwyrdd yn ystod y degawd diwethaf. Ymateb cyntaf llawer o bobl yw ofn, wrth iddynt gofio digwyddiadau o’r gorffennol fel trychineb y zeppelin Hindenburg neu ofnau ynglŷn â diogelwch Nwy Trefol Prydain yn y degawdau’n dilyn y rhyfel. Ond y gwir yw nad yw pobl ar y cyfan yn ymwybodol neu maent yn ddifater ynglŷn â’r defnydd o hydrogen fel fector ynni ac mae hynny’n arafu’r broses.

Nid oes gan hydrogen rôl weledol yn ein bywyd bob dydd yn yr un ffordd â ffynonellau ynni eraill, fel cynnau’r gwres canolog nwy, gweld tyrbinau gwynt yn y pellter neu lenwi tanc y car.

I roi sylw i’r her hon, mae Dr Charlie Dunnill a’i dîm wedi meddwl am ffordd o gyfleu potensial hydrogen gwyrdd ymhlith llunwyr polisi yn ogystal â’r cyhoedd. Mae eu Beic Hydrogen yn ffordd ryngweithiol o arddangos sut y gellir trawsnewid ynni adnewyddadwy yn hydrogen ac yna ei ddefnyddio i yrru’r byd o’n cwmpas. Eu nod oedd nid yn unig annog y cyhoedd i feddwl mewn ffordd bositif am hydrogen fel datrysiad i storio ynni adnewyddadwy, ond hefyd i edrych sut mae barn pobl yn newid ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Sut mae’n Gweithio – Pŵer Pobl

Mae’r cyhoedd yn cynhyrchu eu hynni eu hunain drwy bedlo beic llonydd sydd â dynamo trydan ynghlwm wrtho. Mae’r defnyddwyr yn cael y teimlad eu bod yn gorfod cyfrannu ynni i wneud i’r holl beth weithio sy’n ffordd dda o gychwyn sgwrs ymhell ar ôl i’r arddangosiad ddod i ben. Nid yw’n anghyffredin i glywed pobl yn mewn digwyddiadau’n dweud, yn llawn brwdfrydedd, “a ydych chi wedi cael cyfle ar y Beic Hydrogen?” neu “Do! Dwi wedi pedlo’r beic”.

Mae’r trydan a gynhyrchir gan y defnyddiwr a’r beic, sy’n cynrychioli ynni trydan o wynt neu ffynonellau adnewyddadwy eraill, yn cael ei ddefnyddio wedyn i yrru electrolyser alcalïaidd sy’n gwahanu dŵr yn nwyon hydrogen ac ocsigen. Mae Labordai Dunnill yn dylunio ac yn cynhyrchu’r electrolysers rhad ac effeithlon hyn fel rhan o’u gwaith ymchwil.

I lawer o bobl, hwn fydd y tro cyntaf iddynt weld fflam yn llosgi heb gynhyrchu carbon deuocsid.

Dr Charlie Dunill, Prifysgol Abertawe

Mae’r hydrogen a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio mewn dwy ffordd fel rhan o’r arddangosiad:

  1. I yrru banc o oleuadau LED drwy gell tanwydd hydrogen
  2. cynhyrchu fflam hydrogen ddiogel a sefydlog

Mae wedyn yn hawdd dangos sut y gall hydrogen fod yn rhan o fywyd bob dydd – gall technoleg cell tanwydd yrru cerbydau, goleuadau stryd, cartrefi a busnesau, a gall llosgi hydrogen gyflenwi gwres yn yr un ffordd â’r nwy naturiol yr ydym yn ei ddefnyddio heddiw, heb ddim o’r allyriadau carbon. I atgyfnerthu’r neges, mae’r tîm yn aml yn cyflwyno’r Beic Hydrogen ochr yn ochr â’r cerbyd a ddefnyddir ganddynt i gludo’r cyfarpar; car cell tanwydd hydrogen Hyundai.

Car Hydrogen ESRI

Cael Effaith Fesuradwy

Mae effaith yn cael ei fesur drwy system o docynnau emoji rhyngweithiol 5 ffordd. Mae’r sgwrs â chyfranogwyr yn agor gyda’r cwestiwn ‘Beth yw eich teimladau chi am hydrogen?’ ac mae’r cyfranogwyr yn cael eu hannog i hunan asesu eu barn yn seiliedig ar system oleuadau traffig syml. Mae cyfranogwyr sydd â barn negyddol o hydrogen yn cael tocyn coch, gyda’r rhai â barn bositif yn cael un gwyrdd. Mae rhai heb wybodaeth neu heb farn yn cael un melyn. Mae hyn yn rhoi mesur ‘gwaelodlin’. Mae cyfranogwyr yn dangos eu tocynnau drwy gydol yr arddangosiad ac yna’n eu rhoi mewn tiwbiau sy’n cyfateb i raddfa emoji 5 pwynt, o ‘Hapus iawn’ i ‘Trist Iawn’, mewn ymateb i’r cwestiwn; ‘Beth yw eich teimladau’n awr am ddyfodol wedi’i yrru gan hydrogen?’

Graff Arolwg Barn

Gyda bron i 5000 o gyfranogwyr wedi cymryd rhan yn yr arddangosiad hyd yma, mae’r canlyniadau’n dangos bod y Beic Hydrogen yn cael effaith sylweddol ar ganfyddiadau’r rhai hynny a oedd yn ddifater (tocyn melyn) neu oedd â barn negyddol (tocyn coch) cyn yr arddangosiad.

Roedd yn bwysig nodi hefyd nad oedd gan gyfranogwyr o reidrwydd agwedd negyddol tuag at hydrogen cyn yr arddangosiad. Yn wir, dim ond 8% oedd yn mynegi barn negyddol gyda’r mwyafrif (72%) heb farn y naill ffordd na’r llall. Mae hyn yn bwysig os am fynd i’r afael â’r her o fabwysiadu hydrogen gwyrdd mewn polisi cyhoeddus. Yn hytrach na brwydro yn erbyn canfyddiadau negyddol presennol ar y pryd, mae’r ffigurau hyn yn dangos mai’r frwydr fwyaf yn y lle cyntaf fydd codi ymwybyddiaeth ac amlygiad.

Roedd cael cyfle ar y Beic Hydrogen yn gadael 89% o’r rhai heb farn flaenorol gyda chanfyddiad positif o bŵer hydrogen. Mae adwaith mor bendant gan y cyhoedd yn dangos pa mor effeithiol yw arddangosiadau rhyngweithiol ymarferol a pham y dylent fod yn rhan o weithgareddau allgymorth cyhoeddus os yn bosibl.

Yn Syth o Fainc y Labordy

Yn rhy aml nid yw gweithgareddau allgymorth STEM yn llwyddo i ymgorffori ymchwil sy’n berthnasol i’r byd go iawn, ac maent yn hytrach yn dibynnu ar sicrwydd hen gysyniadau cyfarwydd. Fodd bynnag, mae’r cysyniadau hyn mor estron i fywyd bob dydd fel nad ydynt yn dangos y cysylltiad i gyfranogwyr rhwng hynny a sut y byddant yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae hyn hefyd yn cyfleu delwedd ffug o’r hyn mae pobl sy’n gweithio mewn gyrfaoedd STEM yn ei wneud o ddydd i ddydd. Yr hyn sydd mor arbennig am arddangosiad y Beic Hydrogen yw ei fod yn defnyddio ymchwil sy’n berthnasol i’r byd go iawn sy’n dod yn syth o’r labordy – sef yr electrolyser hydrogen a wnaed gan Dunnill Labs.

Dr Charlie Dunill, Prifysgol Abertawe

Mae’r Beic Hydrogen wedi bod yn atyniad poblogaidd mewn llawer o ddigwyddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyd yn oed y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ogystal â chyfranogwyr o BEIS a llywodraeth y DU wedi cael cyfle i roi cynnig arno.

I lawer o’r lluniau polisi pwysig hyn, dyma oedd eu profiad cyntaf o ddod wyneb yn wyneb ag ynni hydrogen. Hyd yma, mae’r tîm wedi cael tua 20,000 o sgyrsiau â’r cyhoedd o bob math o gefndiroedd a grwpiau demograffig. Roedd llawer ohonynt gyda pheirianyddion a gwyddonwyr ifanc, mewn ffeiriau fel The Big Bang, a fydd yn mynd ymlaen i fod yn genhedlaeth sy’n defnyddio hydrogen gwyrdd fel ynni prif ffrwd yn eu bywydau fel oedolion yn y dyfodol.

TheHydrogenBike.uk/

Gan ddiolch yn arbennig am ymdrechion diflino’r rhai hynny sydd wedi trefnu a rhedeg yr holl ddigwyddiadau lle’r oedd y Beic Hydrogen yn bresennol.