Menu

Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2020 – Dr Louise Hamdy

Louise Hamdy

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, mae Dr Louise Hamdy, Swyddog Ymchwil gyda FLEXIS ym Mhrifysgol Abertawe yn ein hysbrydoli wrth adrodd sut y trodd hi at Beirianneg.

Nid wyf erioed wedi bod yn un sy’n cael fy nghyfyngu i un peth, mi ddechreuais drwy astudio gradd israddedig mewn biocemeg a gradd Meistr a PhD mewn Cemeg. Rwyf yn awr yn gweithio i FLEXIS yn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Wrth edrych yn ôl i’r cychwyn, mae’n amlwg fy mod wedi cael fy ysbrydoli gan y pentyrrau o lyfrau gwyddoniaeth Usborne i blant a oedd yn fy ystafell wely pan oeddwn yn blentyn. Mae gwyddoniaeth wedi bod yn ddiddordeb imi erioed, pethau fel pelydr X, ac mae gwarchod byd natur hefyd wedi bod yn bwysig iawn imi.

Ar ôl fy arholiadau Higher/Lefel A, mi es i Brifysgol Glasgow lle dechreuais astudio Daearyddiaeth, Bioleg a Chemeg, gyda’r bwriad o symud ymlaen i fiocemeg. Ond wn i ddim ai’r darlithwyr gwych, ynteu Claire, yr arddangosydd labordy organig eithriadol o ddeallus yr oedd gen i gymaint o barch tuag ati oedd yn gyfrifol, ond mi o’n i’n cael blas mawr ar Gemeg.

Wrth i fy ngwybodaeth a fy nealltwriaeth gynyddu, felly hefyd fy ymwybyddiaeth o’r trychinebau amgylcheddol a oedd yn digwydd o flaen ein llygaid – yn aml drwy weithredoedd y diwydiannau ynni a chemegau, ond rhai y gellid eu hatal drwy’r gwyddorau cemegol.

Gan elwa ar hyblygrwydd system addysg uwch yr Alban, ni wnes benderfynu newid cwrs a pharhau â fy ngradd Meistr mewn Cemeg. Yn ystod fy astudiaethau mi fanteisiais ar lawer o gyfleoedd cyffrous, ac un o’r rhain oedd lleoliad ymchwil am flwyddyn â Sasol Technology (UK) Ltd. Yma mi ges gyflwyniad i ymchwil y byd go iawn gan weithio mewn labordai synthetig i astudio catalyddion. Cefais gyfle hefyd i fwynhau cyfnodau hir o deithio yn ystod yr haf, a bûm yn cymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth yn Ne Affrica a De America lle’r oeddwn yn helpu i gynnal arolygon o’r boblogaeth crwbanod môr gwyrdd.

Cymorth cyntaf i grwban môr, Uruguay 2011

Ar ôl penderfynu parhau ag ymchwil i ddeunyddiau, mi adawais Glasgow am Brifysgol Caerfaddon i wneud fy PhD mewn astudiaethau crisialograffeg o strwythurau uwchfolecylaidd. Rwyf yn awr yn gweithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gallu cyfuno fy mhrofiad o gemeg deunyddiau gyda fy awydd i helpu’r amgylchedd drwy ddatblygu arsugnyddion carbon deuocsid sy’n helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a mynd i’r afael â chynhesu byd-eang.

Gyda’r rheolwr llinell Dr Enrico Andreoli, Abertawe 2019

Y swydd hon oedd man cychwyn fy nghyflawniadau proffesiynol mwyaf, cyhoeddi ymchwil effaith uchel ac ysgrifennu yn The Conversation. Arweiniodd hyn hefyd at un o’r achlysuron rwyf mwyaf balch ohono, gwneud cyflwyniad yn y Llyfrgell ym mhencadlys hanesyddol y Gymdeithas Frenhinol Gemegol yn Burlington House yn Llundain.

Siarad yn Llyfrgell yr RSC, Burlington House, Llundain 2019

Rwyf hefyd wedi mwynhau cymryd rhan ym mhrosiect allgymorth gwyddonol ein grŵp ymchwil ‘Ailgylchu Carbon’ ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar faterion cynhyrchu ynni a’r amgylchedd.

Gyda’r tîm ‘Ailgylchu Carbon’: o’r Chwith i’r Dde: Dr Mike Warwick, Dr Jennifer Rudd, Dr Louise Hamdy, Dr Marco Taddei a Dr Russ Wakeham, Abertawe 2018

 

Cynrychioli’r prosiect allgymorth ‘Ailgylchu Carbon’ a siarad â Julie James AS, Abertawe 2017

Rwyf yn credu bod allgymorth yn elfen hynod o bwysig o fod yn wyddonydd. Mae gen i barch enfawr at y ffisegydd a’r eigionegydd Dr Helen Czerski wrth iddi drafod yr hyn sy’n aml yn cael ei weld fel gwyddoniaeth anodd a haniaethol mewn ffordd gyffrous – ac yn bwysig iawn – mewn ffordd gynhwysol.

Wn i ddim beth yn union y byddaf yn ei wneud mewn 5 neu 10 mlynedd ond mi wn y byddaf yn gweithio i gael amgylchedd naturiol iachach ynghyd â dyfodol mwy cynaliadwy. Nid yw’r cam nesaf erioed wedi bod yn amlwg imi. Ar ôl fy PhD mi ddechreuais ar TAR mewn cemeg, ac er fy mod wrth fy modd yn rhannu gwyddoniaeth â phobl ifanc, wrth imi fynd yn ddyfnach i addysgeg a graffiau bar, mi allwn weld nad dyma oedd y trywydd y dylwn ei ddilyn. Ond nid wyf yn edifar o’r amser a’r egni a dreuliais yn gwneud y pethau hyn gan ei bod yn bwysig bod yn ddigon dewr i fynd i gyfeiriadau newydd cyn penderfynu beth yn union sydd orau i chi.

Roedd gadael y TAR a gwneud gwaith ôl-ddoethuriaeth yn Abertawe yn gam mawr, ond wrth lwc, roedd yr amgylchedd yn un cefnogol iawn.

Yr hyn yr hoffem yn ei ddweud wrth unrhyw fenyw sy’n meddwl am weithio mewn peirianneg neu wyddoniaeth yw ei bod yn bwysig eu bod yn ymgysylltu â’u sefydliad, yn ymuno â rhwydweithiau proffesiynol, yn manteisio ar bob cyfle diddorol ac, yn fwy na dim, yn fodlon cael eich arwain gan yr hyn sydd o ddiddordeb i chi a’r hyn rydych eisiau ei wneud!