Dechreuodd fy antur mewn gwyddoniaeth a pheirianneg pan oeddwn yn blentyn. Cefais fy ngeni mewn teulu lle’r oedd awyrgylch academaidd da: roedd fy mam a fy nhaid yn athrawon mathemateg. Roeddent yn ysbrydoliaeth imi a nhw wnaeth fy nghyflwyno i wyddoniaeth a pheirianneg: y ffiseg a oedd wrth wraidd dyfeisio ceir ac awyrennau, egwyddorion sefydlogrwydd pontydd bwa Tsieineaidd. Diolch iddynt hwy, mi ddeuthum i ddeall bod dysgu gwybodaeth ym meysydd peirianneg a gwyddoniaeth yn allweddol i werthfawrogi byd gwych sy’n llawn technolegau newydd. Ni ddywedodd fy nheulu wrtha i o gwbl na allwn i ddim astudio na gweithio yn y byd peirianyddol. Dyna pam nad oedd gen i ofn gweithio nac astudio mewn maes lle’r oedd dynion yn fwyafrif.
Dechreuodd fy niddordeb mewn peirianneg pan oeddwn yn blentyn ac mae wedi parhau i dyfu ers hynny. Pan es i i’r ysgol uwchradd, mi wnes ddarllen llawer o gylchgronau pensaernïaeth a dechrau magu diddordeb yn y maes hwn. Fy mreuddwyd oedd bod yn bensaer. Fy nelfryd ymddwyn oedd y pensaer o Brydain, Zaha Mohammad Hadid. Roedd ei dyluniadau hi’n creu byd hudolus yn fy meddwl ac yn profi bod penseiri benywaidd yn gallu creu campweithiau, a bod adeiladau wedi’u dylunio’n dda yn gallu dod â hapusrwydd a thawelwch meddwl i’r bobl sy’n byw ynddynt a’u bod hefyd yn byw mewn cytgord â natur a hanes.
Ar ôl cwblhau fy ngradd mewn peirianneg sifil yn 2010, mi gefais gyfle i barhau â fy astudiaethau ar y Rhaglen Feistr ym Mhrifysgol Zhejiang fel myfyriwr graddedig eithriedig. Ym Mhrifysgol Zhejiang dechreuais ddysgu’r sgiliau ymchwil a chefais wybodaeth yn y maes o dwnelu gwarchodol. Dair blynedd yn ddiweddarach, symudais i Baris ar gyfer fy PhD yn y École des Ponts ParisTech a chychwynnais ar y gwaith ymchwil mewn rhyngweithiad pridd-atmosffer. Yn ystod fy astudiaethau PhD, sylweddolais na ddylwn ganolbwyntio ar adeiladu tanddaearol yn unig; deuthum i ddeall pa mor bwysig yw astudio’r rhyngweithio rhwng y sffêr atmosfferaidd a’r amgylchedd tanddaearol gan fy mod yn awyddus i ddeall y darlun cyflawn o gyflwr yr amgylchedd cyfan o safbwynt peiriannydd geodechnegol. Yn 2017, ymunais â’r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cydymaith Ymchwil.
Ar fy ffordd i fod yn ymchwilydd, os oeddwn yn profi ambell anhawster, mi fyddwn yn ceisio edrych arnynt fel cyfle i ddysgu pethau newydd. Rwyf yn ymfalchïo bob tro y byddaf, drwy fy ymchwil, yn cyfrannu at ddatblygiad y maes hwn ac yn llenwi bwlch hysbys yn yr wybodaeth. Digwyddiad arbennig o bwysig yn fy ngyrfa oedd pan ges y cyfle i gyflwyno fy ngwaith yn y ‘Jubilé du Professeur Francois Schlosser’ a drefnwyd gan Comité Français de la Mécanique des Sols et de Géotechnique. Cafodd fy nghyflwyniad adborth da iawn a chefais fy annog gan yr Athro Francois Schlosser i barhau â fy ngwaith ymchwil, a chanolbwyntio ar yr ymatebion geodechnegol a daearegol i newid yn yr hinsawdd.
Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar yr ymchwiliad i effaith amgylcheddol bosibl technoleg nwyeiddio glo tanddaearol (UCG). Rhan hanfodol o’r prosiect hwn yw cynnig rhai datrysiadau ymarferol i broblem technoleg UCG a, thrwy hynny, osgoi effeithiau amgylcheddol negyddol posibl UCG. Yn fy ngwaith ymchwil, rwyf wedi ymchwilio i’r dull rhifol o werthuso effaith amgylcheddol technoleg UCG, a fydd yn ennyn hyder y cyhoedd a llywodraeth i wneud UCG yn fwy masnachol yn y dyfodol.
Y rôl Cydymaith Ymchwil hon gyda FLEXIS ym Mhrifysgol Caerdydd yw fy swydd gyntaf ers cwblhau fy PhD. Rwyf yn defnyddio’r cyfle hwn i barhau â fy ymchwil ac i wella fy ngwybodaeth o’r maes. Fel ymchwilydd, nid yn unig rwyf yn gysylltiedig â FLEXIS, prosiect ymchwil o bwys rhyngwladol, ond rwyf hefyd yn cael fy nghyflwyno i fyd gwyddonol cwbl newydd.
Yn y 5-10 mlynedd nesaf, rwyf yn gobeithio parhau â fy ymchwil i ymatebion geodechnegol a daearegol i newidiadau i’r hinsawdd. Rwyf hefyd yn gweld y posibilrwydd o ehangu fy niddordebau ymchwil i faterion geoamgylcheddol lleol.
Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth bob menyw a hoffai astudio a chael gyrfa yn y byd peirianyddol yw bod popeth yn bosibl os ydych yn ddigon penderfynol a mentrus. Peidiwch â chyfyngu eich hun am eich bod yn fenyw. Peidiwch â chyfyngu eich hun heb hyd yn oed wybod hynny. Mae gennych y rhyddid i ddilyn eich gyrfa mewn peirianneg neu wyddoniaeth os mai dyna yw eich breuddwyd.