Menu

FLEXIS yn arwain yr ymchwil i dyrbin nwy amonia/hydrogen cyntaf y byd

Turbine

Mae FLEXIS, a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, wedi galluogi ymchwil sylfaenol ac ymarferol i sicrhau £1.9m er mwyn edrych ar ddatblygu cenhedlaeth newydd o dyrbinau nwy a allai gynyddu effeithlonrwydd ar yr un pryd â lleihau allyriadau CO2.

Bydd y prosiect yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio amonia yn fector hydrogen i gefnogi datblygiadau cynhyrchu pŵer gwyrdd ymhellach yn rhanbarth Castell-nedd Port Talbot, Cymru.

Mae Dr Agustin Valera Medina, o FLEXIS, yn adeiladu ar waith ymchwil arobryn ar y defnydd o amonia i storio a rhyddhau ynni carbon sero, ac ef fydd yn arwain y prosiect hwn, a ariannir gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn ystod y pedair blynedd nesaf.

 

Dyma ragor o wybodaeth gan Dr Agustin Valera Medina:

“Gall yr economi hydrogen gael ei chefnogi trwy ddefnyddio amonia, ond mae amonia yn cyflwyno sawl her o safbwynt cynhyrchu llawer o bŵer, er enghraifft allyriadau uchel ac aneffeithlonrwydd sylweddol. Nod y prosiect, felly, yw datblygu cenhedlaeth newydd o gylchoedd tyrbin nwy, sy’n gallu cynyddu effeithlonrwydd ochr yn ochr â lliniaru allyriadau, heb fod dim ond dŵr a nitrogen yn dod allan. Bydd y nitrogen hwnnw’n cael ei gasglu, ei storio ac yn ddiweddarach yn cael ei ddefnyddio i oeri cydrannau, i gynhyrchu rhagor o ynni ac i wresogi ardaloedd.

Hon fydd y system gyntaf yn y byd i fedru cyfuno defnydd o electrodanwydd newydd trwy gyfuno amonia/hydrogen ag egwyddorion thermoddeinamig uwch i gynhyrchu pŵer glân sy’n gwneud elw.”

 

Ar ôl gwneud y gwaith ymchwil cychwynnol yng Nghanolfan Ymchwil y Tyrbin Nwy yn ardal arddangos FLEXIS yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae FLEXIS yn bwriadu gosod tyrbin nwy amonia/hydrogen newydd i drawsffurfio’r ymchwil yn ymarfer trwy ddefnyddio amonia gwyrdd i ddarparu ynni carbon sero i’r ganolfan ymchwil.

Bydd yr ymchwil yng ngofal ymchwilwyr FLEXIS, sef prosiect a luniwyd i gynyddu gallu ymchwil systemau ynni Cymru a chefnogi’r llywodraeth i gyflawni targedau Sero Net.