Ddydd Mercher 12 Chwefror, croesawodd FLEXIS Athro Hyrwyddo Ymchwil Dadgarboneiddio Diwydiannol UKRI, Mercedes Maroto-Valer, sydd newydd ei phenodi, a chynrychiolwyr o brif glystyrau diwydiannol y Deyrnas Unedig i Dde Cymru.
Dan arweiniad prif ymchwilydd arweiniol FLEXIS, Hywel Thomas, bu’r grŵp yn trafod blaenoriaethau ymchwil ac arloesedd ac yn rhannu mentrau dadgarboneiddio newydd o bob un o’r chwe ardal clwstwr: Humberside, De Cymru, Grangemouth, Teesside, Glannau Merswy a Southampton.
Y nod yw mynd ati ar y cyd i greu clwstwr diwydiannol carbon sero-net cyntaf y byd erbyn 2040, ac o leiaf un clwstwr carbon isel erbyn 2030.
Mae llawer o ardaloedd diwydiannol y Deyrnas Unedig yn dal i ddibynnu’n drwm ar danwydd carbon. Mae FLEXIS yn gweithio mewn partneriaeth â Tata Steel ym Mhort Talbot ar nifer o brosiectau dadgarboneiddio, gan gynnwys adennill gwres o wastraff, hyblygrwydd trydanol masnachol a chyfleoedd Hydrogen.
Dywedodd Dr Chris Williams, Rheolwr Ymchwil Ynni yn Tata Steel:
“Trwy weithio mewn partneriaeth â FLEXIS, mae Tata Steel wedi defnyddio ymchwil arloesol ac arbenigedd i archwilio dadgarboneiddio ein prosesau ymhellach.
“Trwy rannu ymchwil a chanlyniadau fel rhan o Glwstwr Diwydiannol De Cymru, byddwn ni’n gallu cydweithio’n well gyda chefnogaeth Llywodraethau a Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddatblygu gweledigaeth ‘Twf Glân’ ar gyfer diwydiant yn Ne Cymru, gyda’r nod o gyflawni sero net erbyn 2050. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Athro Maroto-Valer i sicrhau bod ein clwstwr yn derbyn y gefnogaeth academaidd angenrheidiol ar gyfer y daith gyffrous hon.”