Yn dilyn derbyn cyllid o €2M o raglen Cronfa Ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Glo a Dur (RFCS), mae academyddion o brosiect FLEXIS yn cydweithio â’r Sefydliad Mwyngloddio Canolog (GIG), Polska Grupa Gornicza (PGG) yng Ngwlad Pwyl a Helmholtz Zentrum Potsdam Deutschesgeoforschungszentrum (GFZ) yn yr Almaen, i sefydlu arsyllfa ymchwil danddaearol i ddatgloi potensial defnyddio cronfeydd glo Ewropeaidd ar gyfer storio carbon.
Mae secwestru (dal a storio carbon daearegol) yn dechnoleg amlwg yn y strategaethau ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd. Yn fyr, dyma’r broses o chwistrellu carbon deuocsid sydd wedi’i ddal, sy’n un o’r prif nwyon tŷ gwydr, i ffurfiannau o dan yr wyneb (fel gwythiennau glo, dyfrhaenau halwynog neu gronfeydd wrth gefn olew wedi’u disbyddu) a sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod hir.
Mae prosiect ROCCS (sefydlu Arsyllfa Ymchwil i ddatgloi gwythiennau Glo Ewropeaidd ar gyfer Storio Carbon Deuocsid) yn brosiect tair blynedd a fydd yn cychwyn ar Fedi 1af 2020.
Bydd peirianwyr yn datblygu’r darganfyddiadau a wnaeth tîm FLEXIS wrth gynnal gwaith profi a modelu mewn labordy.
Bydd y tîm arbenigol o FLEXIS a’i bartneriaid Ewropeaidd, yn cynnal profion yn y fan a’r lle yn Experimental Mine Barbara (EMB), Mikołów, Gwlad Pwyl.
Y nod yw goresgyn y cyfyngiadau sy’n ymwneud â chwistrellu CO2 er mwyn cynyddu faint o nwy sy’n cael ei storio mewn gwythïen lo. Mae hyn yn gyffredin mewn technolegau presennol. Bydd y prosiect yma yn archwilio’r mater hwn.
Bydd system ffynnon lorweddol o’r radd flaenaf yn cael ei dylunio a’i gosod yn yr EMB ar gyfer optimeiddio chwistrelliad CO2.
Trwy gydol y prosiect, darperir cynllun monitro amgylcheddol cynhwysfawr ar safle prawf EMB i sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo’n ddiogel, bod yna asesiad o’r risg a’i fod yn cael ei reoli. O fewn y prosiect ROCCS, bydd safle masnachol ar raddfa fawr hefyd yn cael ei ddewis a’i ddadansoddi ar gyfer y storfa CO2 orau mewn modd cost-effeithiol, wedi’i ategu gan ddadansoddiad techno-economaidd manwl.
Bydd synthesis prosiect yn penderfynu a yw’r system chwistrellu newydd yn ddull effeithiol (gan gynnwys cost-effeithiol) o wella cyfradd chwistrelliad a storfa CO2, gan arwain at arferion gorau newydd ar gyfer ei ddefnyddio’n fasnachol.
Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i drosglwyddo blynyddoedd o ymchwil o’r radd flaenaf o’r labordy i safle prawf arddangos ar raddfa lawn. Mae secwestru carbon deuocsid o dan yr wyneb yn dechnoleg a gydnabyddir yn eang i leihau allyriadau atmosfferig o CO2. Yn hynny o beth, mae gennym bartneriaeth waith gref gyda Gwlad Pwyl a chan fod gan lawer o ranbarthau Ewropeaidd ddyddodion glo cyfoethog sylweddol, gall partneriaethau fel hyn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni targedau lleihau allyriadau carbon yr UE.
Prif Ymchwilydd Arweiniol FLEXIS, yr Athro Hywel Thomas