Menu

FLEXIS yng Nghynhadledd Ymchwil Rhwydwaith ECR ar Argyfwng yr Hinsawdd ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol

Cadeiriodd FLEXIS a’r Athro Karen Henwood o Brifysgol Caerdydd drafodaeth ar dechnolegau a dulliau newydd o ymdrin â systemau ynni yng nghynhadledd Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa Cymdeithas Ddysgedig Cymru ddiwedd 2021. Yn cyfrannu at y drafodaeth roedd Dr Simon Middleburgh o Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, Marina Kovaleva o Goleg y Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Rhiannon Chalmers-Brown o Ganolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol De Cymru. Denodd yr alwad am bapurau ar gyfer y gynhadledd gyfan 23 o gynigion gan Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa mewn wyth prifysgol yng Nghymru.

Teitl y sesiwn oedd ‘Systemau Ynni: Technolegau a Dulliau Newydd’ gyda Dr Middleburgh yn trafod ‘Sut mae Prifysgol Bangor yn Datblygu Systemau Niwclear i Fynd i’r Afael â Newid yn yr Hinsawdd ac Archwilio’r Bydysawd’.

Gellir gweld trafodaeth arall a oedd yn cynnwys gwaith Marina Kovaleva ar wella Dyluniad Taniwr NH3/H2 wedi’i oleithio fel rhan o’r drafodaeth ar yr argyfwng hinsawdd ac anghydraddoldeb cymdeithasol yma.

Yn olaf, roedd Dr Chalmers-Brown yn archwilio Dal a Defnyddio Carbon: Ffatri VFA.

Dywedodd un ymchwilydd a aeth i’r gynhadledd ‘…roedd yn werth chweil i mi gael cyfle i ledaenu fy ymchwil fy hun, ond yn fwy na hynny, roedd gwrando ar ymchwilwyr eraill hyd yn oed yn well. Roedd yn ddiddorol gweld lle mae fy ymchwil yn rhannu tebygrwydd ag ymchwil arall a hefyd, lle mae’n wahanol. Rwyf wedi bod yn sownd ar agwedd benodol ar ddamcaniaeth ond soniodd ymchwilydd arall am rai llenyddiaethau a fydd yn fy helpu’n fawr. Nid oedd ei phwnc yr un fath â mi ac efallai bod angen i mi wrando ar waith ymchwil rhyngddisgyblaethol er mwyn cael y mewnbwn hwn.”

Dywedodd academydd arall ‘Roeddwn i wrth fy modd â’r ymgysylltu a’r ddeialog yn dilyn yr holl siaradwyr. Mae wedi bod yn ddigwyddiad rhagorol. Diolch, Gymdeithas Ddysgedig Cymru’.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Prif Ymchwilydd FLEXIS a Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: ‘Roedd cynhadledd ECR Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn llwyddiant mawr gydag ymchwilwyr o wahanol gefndiroedd disgyblu yn gallu cyflwyno eu hymchwil ac ymgysylltu ag eraill. Diolch i bawb a gyfrannodd at gyfle gwych i ddysgu am yr ymchwil sy’n cael ei chynnal ar newid yn yr hinsawdd o wahanol ddisgyblaethau ac i Dr Barbara Ibinarriaga Soltero am ddigwyddiad difyr.’

Mae fideo llawn sesiwn y gynhadledd dan gadeiryddiaeth yr Athro Henwood i’w weld yma: