Menu

Rhoi hwb i amrywiaeth yn ystod y cyfyngiadau symud. Fy mhythefnos cyntaf gyda FLEXIS

Wiktoria Tunska, Swyddog Gweinyddol FLEXIS

I’r rheini ohonoch sydd bob amser wedi gweithio mewn swyddfa, mae’n bosib bod gweithio o bell wedi bod yn newid mawr ac yn brofiad annisgwyl. Ond mae cychwyn swydd newydd yn ystod y coronafeirws yn brofiad hyd yn oed yn fwy rhyfedd. Dyma beth ddigwyddodd i fi. Ym mis Mawrth, newidiais o weithio yn y swyddfa i weithio o bell ac ymhen ychydig, dechreuais fy rôl newydd fel Swyddog Gweinyddol Prosiect ‘FLEXIS’. Y cyfan o gysur fy nghartref fy hun.

Hyd yn hyn, mae fy mhrofiad o weithio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn gwbl ddigidol. Gan ddechrau gyda’r cyfweliad Zoom, a aeth yn dda, ond yn bendant ddim mor llyfn â’r disgwyl (technoleg felltith!). Ar wahân i fân faterion technegol, roedd cyfweliad rhithwir yn brofiad diddorol. Roedd bod gartref yn gwneud y profiad cyfan yn llawer llai o straen i mi ond, ar y llaw arall, mae cyfathrebu trwy Zoom (neu unrhyw blatfform digidol arall) yn ei gwneud hi’n amhosibl bron i ddod i nabod y person sydd ochr arall y sgrin a deall eu hemosiynau, eu hwyliau a’r amgylchedd cyffredinol. Rydw i wedi bod yn rhan o dîm FLEXIS ers ychydig dros bythefnos bellach ac mae’n rhyfedd meddwl nad ydw i wedi cwrdd â’m cyd-weithwyr wyneb yn wyneb o hyd. Mae siarad trwy dechnoleg yn dileu elfen o gysylltiad emosiynol a chynhwysiant sy’n dod gyda chyfathrebu wyneb yn wyneb ond gyda phob cyfarfod galwad fideo, rwy’n dod i nabod pawb yn y tîm ychydig yn fwy ac rydw i wedi cael croeso mawr.

Galwad tîm FLEXIS

Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi ymuno â thîm mor gefnogol gan iddo wneud y profiad trosglwyddo yn llawer haws i mi. Cyn i fi ymuno â FLEXIS, cefais fy hysbysu o’r themâu trawsbynciol, sy’n chwarae rhan sylweddol yn y prosiect hwn a ariennir gan WEFO, sef:

 

  1. Datblygu Cynaliadwy
  2. Mynd i’r Afael â Thlodi ac Allgáu Cymdeithasol
  3. Cyfle Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhyw

 

Roedd y gwaith y mae’r prosiect yn ei wneud i gefnogi a hyrwyddo’r pynciau hyn yn rhywbeth a dynnodd fy sylw yn bendant. Nid yn unig y cefais gyfle i ddod yn rhan o’r prosiect ynni gwyrdd pwysig ond hefyd i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hyn  wedi bod yn bwysig i mi erioed oherwydd y rhesymau personol i weithredu fel eiriolwr dros gyfle cyfartal ac yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar – mudiad Black Lives Matter, yr ymladd dros hawliau cyfartal cymuned LGBTQ+ yn America ac yn fy ngwlad enedigol (Gwlad Pwyl) – roedd yn ymddangos bod eirioli dros gyfle cyfartal yn dod yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Felly, penderfynais blymio’n syth i mewn ac ar ôl trafodaeth gyda Jamie Lewis sydd yn Gydlynydd Monitro, Gwerthuso a Themâu Trawsbynciol gyda FLEXIS, dechreuais weithio ar y thema Cyfleoedd Cydraddoldeb a Phrif-ffrydio Rhyw. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig coronafeirws a’r cyfyngiadau symud gorfodol, daeth hyrwyddo amrywiaeth yn dasg fwy heriol. Mewn cyfnod lle nad oes llawer o symud na rhyngweithio, symudodd y prif ffocws yn naturiol o hyrwyddo cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhyw yn uniongyrchol i fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Ac roedd hynny’n rhywbeth roeddwn i eisiau rhoi sylw iddo.

Dechreuais trwy ddefnyddio fy mhrofiad fy hun. Gofynnais i fy hun: ‘Beth yw’r heriau mwyaf o ddechrau swydd newydd o bell? Beth yw’r heriau o weithio gartref (yn ôl pob tebyg) am y tro?’ Cyfeiriodd y cwestiynau hyn fy meddwl at gynhwysiant, cyn symud ymlaen at y cwestiwn mwy: ‘Sut i hyrwyddo cydraddoldeb o fewn y cyfyngiadau symud adeg y coronafeirws?’ Yn bersonol, rwy’n mwynhau gweithio gartref ac yn credu bod iddo lawer o fanteision. Fodd bynnag, mae anfanteision i’r ffordd yma o weithio hefyd, er enghraifft, y teimlad cynyddol o unigedd. Fel y soniais o’r blaen, gwnaeth fy nhîm i mi deimlo bod croeso mawr i mi, a’m cynnwys a’m cefnogi bob cam o’r ffordd ond rwy’n dal i gydnabod y gallai gweithio gartref fod yn brofiad anodd i rai. I mi, roedd yn brofiad newydd i newid swydd ond hynny heb y profiad corfforol o fod mewn gweithle newydd a chwrdd â phobl newydd. Graddiais yn ddiweddar o Brifysgol Caerdydd felly roedd gen i wybodaeth gyffredinol deg o’r Brifysgol, ei diwylliant a’i gwerthoedd. Serch hynny, yn hollol naturiol, mae profiad myfyriwr yn wahanol iawn i brofiad gweithiwr.

Wiktoria yn gweithio gartref

Er mwyn helpu fy hun i deimlo’n fwy o ran o fywyd ehangach y sefydliad, penderfynais gymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi a’r cyrsiau sydd ar gael ar-lein. Y cam cyntaf oedd chwilio trwy’r Fewnrwyd yn ogystal ag ymuno â grwpiau Yammer perthnasol. Fel hyn des i ar draws gweminar defnyddiol iawn ar ‘Iechyd Meddwl a Chefnogaeth ar gyfer y Gymuned LGBTQ+’ a drefnwyd gan Care First a Phrifysgol Caerdydd. Canolbwyntiai’r weminar ar y ffyrdd o wella lles aelodau’r gymuned LGBTQ+ o fewn cyfyngiadau symud coronafeirws. Yn ystod y weminar, dysgais am ffyrdd o fynd i’r afael â materion fel teimlad o unigedd neu bryder. Cyflwynodd Care First adnoddau defnyddiol (gan gynnwys y cysylltiadau â Mind, Care First, a’r Samariaid) ac awgrymiadau ar sut i helpu unrhyw un sy’n cael trafferth yn y sefyllfa bresennol. Gwnaeth y profiad hwn nid yn unig i mi deimlo’n rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd ond hefyd yn naturiol daeth yn ganllaw ar sut y gallaf barhau â’m cenhadaeth i hyrwyddo cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhyw yn FLEXIS yn ystod y cyfyngiadau symud.

Rwy’n credu mai addysgu eich hun yw’r cam sylfaenol sydd angen ei gymryd er mwyn hyrwyddo amrywiaeth. Felly, rydw i’n defnyddio fy amser yn ystod y cyfyngiadau symud i gynyddu fy ngwybodaeth am ddiwylliant cynhwysiant a datblygu rhai sgiliau newydd. Profodd gweithio gartref yn gyfle gwych i gwblhau hyfforddiant ar-lein a gwylio gweminarau defnyddiol. Fe wnes i ddod o hyd i lawer o adnoddau am ddim ar faterion cydraddoldeb y gellir eu cyrchu ar-lein, gan gynnwys LGBT Wellbeing Hub, cwrs Future Learn –  ‘Understanding Diversity and Inclusion’, Pecynnau Dysgu Gartref Stonewall, neu erthyglau Ian Dodds ar ddiwylliant cynhwysol mewn sefydliad. Mae’r cyfryngau cymdeithasol, sef yr offeryn cyfathrebu mwyaf effeithiol yn yr amgylchiadau presennol yn fy marn i, yn profi i fod yn llwyfan gwych i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a phrif ffrydio rhyw. Yn FLEXIS, rydym yn defnyddio ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ein gwaith ar themâu trawsbynciol. Yn gynharach y mis hwn, cynorthwyais i baratoi gwaith hyrwyddo ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg…

Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2020 – Post Trydar

Ar gyfer yr achlysur hwn, gwnaethom bostio cyfres o gyfweliadau a blogiau gyda rhai o’r menywod ysbrydoledig â’u ffocws ar beirianneg yn FLEXIS; gan sbarduno ffocws ar fater cydraddoldeb rhywiol yn ogystal â chefnogi cyfranogiad menywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Er mai newydd ddechrau mae fy antur gyda FLEXIS, rwy’n teimlo’n gadarnhaol iawn am y tîm ac yn gryf iawn am y gwerthoedd y mae’r prosiect yn eu hyrwyddo. Roedd manteision o gychwyn cyflogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud gan ei fod wedi rhoi amser imi ganolbwyntio ar hunanddatblygiad a hunanddysgu. Byddaf yn parhau i ymuno â mwy o sgyrsiau ar-lein a chymryd rhan mewn gweminarau i gynyddu ymgysylltiad a mynd i’r afael â theimladau o unigedd. Yn fy ngwaith, rwy’n bwriadu mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig yn enwedig nawr – mewn cyfnod o argyfwng.

 

Os oes gennych chi unrhyw syniadau sydd wedi gweithio’n dda i chi a’ch tîm, rhowch wybod i mi: tunskawm@cardiff.ac.uk.