Mae’r ymchwil a gynhaliwyd o dan FLEXIS ar flaen y gad o ran datgarboneiddio ein cyflenwad ynni.
Er 2016, mae FLEXIS wedi recriwtio 78 o ymchwilwyr sy’n mynd i’r afael â heriau ynni byd-eang; gan weithio ochr yn ochr â rhai o beirianwyr blaenllaw Cymru ac adeiladu ar y gallu o’r radd flaenaf sydd eisoes yn bodoli ym mhrifysgolion Cymru.
Yn ddiweddar, buddsoddodd tri o’r ymchwilwyr hyn yn eu datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain trwy ardystio’n Garbon-lythrennog.
Mae hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon deuocsid yn sgil gweithgareddau bob dydd, a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau ar sail unigolyn, cymuned a sefydliad. Dyluniwyd y cwrs yn benodol ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd; gan roi mwy o bwyslais ar y ffyrdd y mae peirianneg ac ymchwil yn cyfrannu at gynhesu byd-eang ac yn helpu i’w liniaru ar yr un pryd. Dywedodd Cydymaith Ymchwil FLEXIS, Dr Renato Zagorscak, sydd bellach wedi’i ardystio’n garbon-lythrennog:
Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn i gael gwell dealltwriaeth, nid yn unig o agweddau technegol llythrennedd carbon, ond hefyd yr agweddau cymdeithasol a gwleidyddol ar newid hinsawdd sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.
Rydw i nawr yn gallu ychwanegu’r ardystiad hwn at fy CV. Wrth i mi barhau â’m hymchwil i dechnolegau geo-ynni a storio carbon yn ogystal â datblygu prosiectau a thimau newydd, rwy’n fwy ymwybodol o sut galla i leihau allyriadau fy hun ac yn sefydliadol a’r effaith ehangach y gall hyn ei gael ar y byd.
Datblygwyd yr hyfforddiant gan y Mudiad Hyfforddiant Llythrennedd Carbon a’i gyflwyno gan Cynnal Cymru. Roedd yn cynnig cymysgedd o sesiynau wedi’u hwyluso, tasgau grŵp ac astudio hunangyfeiriedig, gyda’r cyfranogwyr yn gallu ennill ardystiad trwy lenwi ffurflenni tystiolaeth ar ôl y cwrs.
Trefnwyd y sesiwn gan Swyddog Datblygu Prosiect FLEXIS, Karolina Rucinska, a ddywedodd:
Nod FLEXIS yw gwella cynaliadwyedd o fewn y prosiect yn ogystal â thrwy ein hymchwil. Fel rhan o’r nod hwn, mynychais yr hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn gynharach yn y flwyddyn. Erbyn hyn mae gen i fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ymddygiad gwyrdd gartref ac yn y gwaith y gallaf ei gymhwyso a’i rannu. Fe roddodd gyngor i mi ar sut i greu cartrefi a gweithleoedd mwy gwyrdd a thynnu sylw at sut y gallwn bontio bwlch rhwng theori newid hinsawdd a gweithredu ar lefel prosiect.
Cyn bo hir bydd mwy o weithwyr FLEXIS yn ymgymryd ag ardystiad llythrennedd carbon gyda rhai yn anelu at ddod yn ddarparwyr hyfforddiant eu hunain, gan dynnu sylw ymhellach at FLEXIS a’i weithwyr fel arweinwyr wrth sicrhau dyfodol carbon isel.
Mae mwy o wybodaeth am yr Hyfforddiant Llythrennedd Carbon a ddarperir trwy Cynnal Cymru i’w gael yma: http://www.cynnalcymru.com/cy/carbon-literacy/